Mae prosiect Cofebau Cymreig i’r Rhyfel Mawr yn diogelu’r wybodaeth sydd ar y cofebau hyn, ac yn rhannu lluniau ohonynt ac unrhyw ymchwil sydd wedi’i wneud amdanynt. Mae llawer o’r cofebau hyn wedi’u colli wrth i’r gweithleoedd a’r capeli gau a’r ysgolion adleoli; mae llawer o’r rhai sy’n weddill mewn perygl, ac nid yw’r rhan fwyaf wedi’u cynnwys ar y cronfeydd data o gofebau rhyfel sydd ar gael.
Mae’r prosiect yn ystyried hefyd sut y cafodd y Rhyfel Byd Cyntaf effaith ar gymunedau lleol. Mae cofebau ‘answyddogol’ yn coffáu cyfraniad aelodau o grŵp dethol lleol i’r rhyfel , ac maent yn gallu rhoi gwybodaeth i ni am fywydau unigolion ac am gysylltiad y gymuned â’r rhyfel.
Mae ymchwil arall ydy astudio’r ymatebion amrywiol i’r rhyfel a’i effeithiau gwahanol ar gymunedau lleol. Bydd casglu rhychwant o gofebau mewn un cronfa ddata yn ein galluogi i ystyried sut a pham yr oedd tôn a graddfa coffáu’r rhyfel yn amrywio. Er enghraifft, creodd rhai sefydliadau (capeli, gweithleoedd ac ysgolion) Restri Gwroniaid addurnedig i gofio pawb a gollwyd, tra roedd rhai eraill wedi cadw at gofebau syml i’r rhai a gollwyd.
- Pa ffactorau allai egluro’r ymatebion gwahanol hyn?
- A oes gwahaniaethau rhwng cofebau y talodd cyflogwyr amdanynt a’r rhai a ariannwyd gan y gweithwyr?
- Beth yw’r gwahaniaethau yn y coffáu rhwng sefydliadau mewn ardaloedd glofaol / dur / tunplat / llechi / amaethyddol?
- Dim ond y dynion a fu’n gwasanaethu a restrir ar y rhan fwyaf o gofebau capeli, ond mae rhai yn coffáu cyfraniad menywod fel nyrsys a gweithwyr arfau: pa batrymau y gellir eu gweld yma?

Allbwn creiddiol y prosiect fydd cronfa ddata o gofebau’r Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru. Byddwn yn rhannu unrhyw wybodaeth a gasglwyd am y milwyr gan haneswyr lleol, ysgolion a chymdeithasau. Mae gennym hefyd gyfres o erthyglau blog ar ein gwefan a anelir at gynulleidfa gyffredinol.
Arweinydd y prosiect: Gethin Matthews
Cyfnod y prosiect: 2014-yn parhau
Cysylltwch â Gethin: g.h.matthews@swansea.ac.uk
Dilynwch y prosiect ar Twitter @WelshMemorials