Chwilio
Cau'r blwch chwilio yma.

AMDANOM NI

Mae Treftadaeth ym Mhrifysgol Abertawe yn croesi Hanes, Treftadaeth a’r Clasuron, Daearyddiaeth, Rheolaeth a Pheirianneg. Mae CHART yn gymuned amrywiol a rhyngddisgyblaethol o ysgolheigion y mae eu harbenigedd yn cwmpasu diwylliant materol, archaeoleg, hanes cyhoeddus, archifau, polisi rhyngwladol, a thechnoleg ddigidol. Mae gan ein hymchwil gyrhaeddiad byd-eang, gan ymestyn dros Ewrop, y Dwyrain Canol, Gogledd America, ac Asia, ond mae ein hymchwil yn cael ei ddylanwadu hefyd gan yr amgylchedd a’r cymunedau yr ydym wedi’n gwreiddio ynddynt. Mewn rhanbarth sydd wedi’i effeithio’n helaeth gan ddiwydiannu a dad-ddiwydiannu, gan ddatganoli a hunaniaeth ddiwylliannol Gymreig, mae ein hymwneud â threftadaeth a hunaniaeth ddiwylliannol Gymreig yn gryfder pwysig arall.  

Rydym yn ffodus bod Prifysgol Abertawe yn gartref i nifer o archifau a chasgliadau ymchwil ac addysgu o fri byd-eang, gan gynnwys y Ganolfan Eifftaidd, Archifau Richard Burton a Llyfrgell Glowyr De Cymru. Mae lansio MA mewn Hanes Cyhoeddus a Threftadaeth yn 2015 a sefydlu CHART yn 2021 wedi gwneud mwy eto i hwyluso twf partneriaethau allanol clos a chefnogaeth i’r rhai sy’n chwilio am yrfa yn y sector treftadaeth. Mae Prifysgol Abertawe yn darparu amgylchedd ymchwil ysgogol i ysgolheigion ym mhob cam o’u gyrfa sy’n gallu gweithio yn yr amrywiol dirweddau, archifau ac amgueddfeydd sydd ar ein stepen drws.    

Dysgwch fwy am ein cryfderau mewn ymchwil a’r meysydd sydd o ddiddordeb i ni.

Arddangosfa Copperworks Abertawe.

Treftadaeth ddiwydiannol 

Mae gan Abertawe a’i rhanbarth gyfoeth o dreftadaeth ddiwydiannol ac mae gwaith helaeth gyda phartneriaid yn y sector treftadaeth a Phrifysgol Abertawe wedi chwarae rhan flaenllaw mewn prosiectau i adfywio safleoedd diwydiannol gynt yn y ddinas ers y 1960au yn ogystal â’n rhan yn y prosiect i adennill Cwm Tawe Isaf.

Ers Prosiect Cwm Tawe Isaf, mae ein hymchwil i ddiwydiant Cymru wedi parhau gyda phrosiectau pwysig ar gopr Abertawe, casgliad y meysydd glo, anabledd yn y Chwyldro Diwydiannol a gwaith ar gymunedau dur Cymru. Mae ein cryfderau ym maes treftadaeth ddiwydiannol yn mynd ymhellach na’r gwaith lleol hefyd. Fel aelod o gonsortiwm DePOT (Dad-ddiwydiannu a Gwleidyddiaeth ein Cyfnod), rydym yn rhan o rwydwaith byd-eang o ysgolheigion sy’n defnyddio hanes i fynd i’r afael â’r heriau cymdeithasol, economaidd, a diwylliannol sy’n wynebu cymdeithasau ôl-ddiwydiannol.  

Amgueddfeydd a llun archifau. Person yn dal rhydweli hanesyddol yn ofalus yn ei ddwylo

Amgueddfeydd ac archifau 

Mae ein hymchwil a’n hyfforddiant ôl-raddedig yn cael eu cyfoethogi gan fynediad at y cyfoeth o gasgliadau amgueddfeydd ac archifau sydd ym meddiant y brifysgol.

Mae Canolfan Eifftaidd y brifysgol yn gasgliad o Henebion Eifftaidd sydd o arwyddocâd rhyngwladol. Fe’i sefydlwyd ym 1988 ac mae’n un o brif gyrchfannau ymwelwyr Abertawe ac yn adnodd pwysig i ysgolheigion, athrawon a myfyrwyr sy’n ymweld.

Archifau Richard Burton yw cof corfforaethol ac ystorfa archifau Prifysgol Abertawe ac maent yn cadw deunydd o arwyddocâd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae’r Archifau’n dethol ac yn diogelu’r holl gofnodion o werth hanesyddol a grëwyd gan y Brifysgol neu a ddaeth i’w meddiant ac yn eu gwneud yn hygyrch i bawb, gan gynnwys Rheilffordd y Mwmbwls, y diwydiannau metel, bywyd yr actor Richard Burton, ac eitemau sy’n gysylltiedig â bywydau cyn-aelodau staff a myfyrwyr.

Mae Llyfrgell Glowyr De Cymru yn gartref i ddeunydd gan Brosiect Hanes Meysydd Glo De Cymru.  Sefydlwyd y Llyfrgell ym 1973, ac mae'n cadw tystiolaeth lafar, gweledol ac ysgrifenedig o fwyngloddio glo a glowyr yn Ne Cymru gan gynnwys y casgliadau llyfrau printiedig a phamffledi, gan gynnwys llyfrgelloedd dros 60 o sefydliadau a neuaddau lles o bob rhan o'r maes glo, hanes llafar, fideo, posteri, a chasgliadau baneri.

Mae Hanes Casglu Cyfrifiadura yn gartref i ddeunydd i'w wneud â hanes data a chyfrifiant a'i gymdeithasol a'i
dylanwadau economaidd.  Wedi'i sefydlu yn 2007
i achub hanes sydd eisoes yn fanno, mae'r Casgliad yn cadw cyfrifiaduron a dyfeisiau cyfathrebu, meddalwedd, llawlyfrau, llafar, hanesion fideo   , ac effemera. Mae gan y Casgliad lyfrgell, archif a chanolfan astudio ac mae'n adnodd unigryw ymhlith prifysgolion y DU.


Ffotograffydd yn cwmni Copperworks Abertawe.

Treftadaeth amrywiol 

Mae CHART yn mynd ati o ddifrif i ymwneud ag effeithiau diwylliannol a chymdeithasol treftadaeth ac i gyfrannu at lesiant cymdeithasol. Rydym yn ceisio rhoi synnwyr mwy eglur i gymunedau amrywiol bod gwerth yn cael ei gosod ar eu hanesion a’u bod yn rhan o dreftadaeth gyhoeddus.

Mae ein gwaith yn gyson â’r genhadaeth ddinesig sy’n ddisgwyliedig o Brifysgolion gan Lywodraeth Cymru, ond mae ein trefniadau cydweithredol a’n partneriaethau yn mynd y tu hwnt i lywodraeth a’r sector preifat ac yn darparu ymchwil treftadaeth sydd â seiliau cymunedol a chyhoeddus, gan gynnwys gwaith gyda grwpiau eiriolaeth anabledd llawr gwlad, elusennau digartrefedd, ysgolion a cholegau.  Mae CHART yn darparu cyfleoedd hefyd i fyfyrwyr is-raddedig ac ôl-raddedig presennol ddatblygu arbenigedd proffesiynol.

Treftadaeth fyd-eang

Mae CHART yn cynnwys arbenigwyr sy’n gweithio ar waith ymgynghorol, cydweithrediadau a phartneriaethau rhyngwladol o broffil uchel yn Ewrop, Gogledd America ac Asia.

Drwy bwysleisio pwysigrwydd treftadaeth i hunaniaethau diwylliannol byd-eang, maent yn creu cysylltiadau rhwng diogelu a rheoli treftadaeth, gwahanol ganllawiau cyfreithiol a pholisi rhyngwladol, heriau a moeseg treftadaeth gynhennus a rhanddeiliaid amrywiol. Mae’r gwaith hwn yn ymestyn o waith cydweithredol pwysig ar dreftadaeth hynafol sy’n canolbwyntio ar ddiogelu treftadaeth mewn ardaloedd lle ceir gwrthdaro, i ymchwil ar Gofebion Cymreig i’r Rhyfel Mawr a phartneriaeth gydag UNESCO i ystyried sut y mae ymarfer treftadaeth yn creu’r dyfodol yn y gymuned dreftadaeth fyd-eang. Yn ôl gartref, mae Canolfan Eifftaidd enwog Prifysgol Abertawe yn darparu canolbwynt ar gyfer ymchwil ac astudiaethau ar henebion Eifftaidd o fewn cyd-destun ehangach dysgu sy’n seiliedig ar wrthrychau.