Chwilio
Cau'r blwch chwilio yma.

Canolfan Ymchwil a Hyfforddiant Treftadaeth

CROESO I CHART

Mae CHART (y Ganolfan Ymchwil a Hyfforddiant Treftadaeth) yn ganolbwynt ar gyfer cydweithredu a phartneriaethau rhyngddisgyblaethol sydd wedi’i lleoli yn yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Abertawe. Drwy ymchwil, hyfforddiant a gweithgareddau ymgysylltu, rydym yn gweithio i gefnogi myfyrwyr, ysgolheigion ac amrywiaeth eang o sefydliadau o’r sectorau cyhoeddus a gwirfoddol yn fyd-eang yn ogystal â ledled Cymru.

Ein diffiniad o dreftadaeth ydy set o arferion sy’n ymwneud â naill ai’r deunyddiau sy’n ffurfio’r dirwedd hanesyddol neu elfennau anniriaethol sy’n fynegiannau diwylliannol. Mae CHART yn pwysleisio pwysigrwydd treftadaeth ar gyfer hunaniaeth ddiwylliannol ac yn dangos sut y gall treftadaeth fod wrth graidd gwrthdaro a buddiannau sy’n cystadlu â’i gilydd, yn ogystal ag adfywio, datblygu economaidd, creu lleoedd a llesiant.   

January 24, 2024
Researchers at Swansea University came together with game designer Kieran Pearson and pupils from Pentrehafod School to design a game that explored the development of the copper working industry in South Wales and the impacts it had on health and the environment Daeth ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe ynghyd â Kieran Pearson, dylunydd gemau, a disgyblion o Ysgol Pentrehafod i ddylunio gêm sy’n archwilio datblygiad y diwydiant gwaith copr yn ne Cymru a’i effeithiau ar iechyd a’r amgylchedd.
Person yn sefyll o flaen arddangosfa y tu mewn i ysgol

Prosiect Cynaliadwyedd Ysgol Bae Baglan

Yn 2022, dilynodd Rebecca Bangera raglen interniaeth SPIN tra roedd yn astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Astudiaethau Plentyndod ym Mhrifysgol Abertawe. Drwy Rwydwaith Interniaethau â Thâl y brifysgol (SPIN), caiff myfyrwyr eu cysylltu â chyflogwyr ar draws pob sector ar gyfer interniaethau pedair-wythnos ar lefel graddedigion.

Darllenwch Fwy