Mae cynhyrchu dur wedi cael effaith ddofn ar fywydau a thirweddau yn y Gymru gyfoes gydag adeiladu gweithfeydd diwydiannol mawr, dociau, ffyrdd, a thai gweithwyr, i newid patrymau gwaith shifft, cymudo, hamdden a bywyd cymdeithasol.
Bu’r diwydiant yn gyfrifol hefyd am gysylltu trefi yng Nghymru megis Port Talbot, Casnewydd, Glynebwy a Shotton â rhwydweithiau rhyngwladol yn ymwneud â gwybodaeth ac arbenigedd yn nhechnoleg a logisteg y diwydiant, ond perodd hefyd iddynt fod ar drugaredd llanw a thrai dur yn y farchnad fyd-eang.
Glo sy’n tueddu i gael y lle amlycaf yng nghanfyddiad y cyhoedd o hanes diwydiannol Cymru, ond erbyn canol y 1960au, roedd dur yn cyflogi mwy o bobl yng Nghymru na’r diwydiant glo oedd ar drai. Ers hynny, mae colledion swyddi a chau gweithfeydd wedi gorfodi nifer o gymunedau dur hefyd i ailystyried eu hunaniaeth a’u perthynas â’r diwydiant. Mae dolenni i adnoddau digidol am hanes a threftadaeth y diwydiant dur a gynhyrchwyd gan dîm y prosiect ar dudalen we'r project.
Arweinydd y prosiect: Louise Miskell. Aelodau’r prosiect: Gemma Almond a Hilary Orange
Dyddiadau'r prosiect: 2019-2021
Cysylltwch â Louise: l.miskell@swansea.ac.uk
Dilynwch y prosiect ar Twitter @Steelworlds