Chwilio
Cau'r blwch chwilio yma.
PROSIECTAU

Treftadaeth Gyhoeddus ac Adfywio Cymunedol

Y ffaith bod cymaint o dreftadaeth ddiwydiannol yn parhau yn Ne Cymru oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer prosiect sy’n datblygu dulliau cydweithredol a weithio ym maes adfywio dan arweiniad treftadaeth.
Arddangosfa Copperworks Abertawe.

Mae prosiect RWIF yn gweithio gyda Chyngor Abertawe a phartneriaid eraill yn y trydydd sector i sicrhau y cwblheir y gwaith dehongli yn olion Gwaith Copr Hafod-Morfa yn Abertawe. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd y gwaith copr hwn yn un o’r rhai mwyaf yn y byd. Gyda’n partneriaid, rydym yn creu safle tirnodol ar gyfer treftadaeth, dysgu, arloesi ac ymgysylltu cymunedol.

Mae safle’r gwaith copr yn darparu amgylchedd dysgu rhagorol sy’n seiliedig ar le ar gyfer gweithgareddau ymgysylltu cyhoeddus gydag ysgolion, colegau a grwpiau cymunedol. Mae’r prosiect yn defnyddio dulliau dysgu sy’n seiliedig ar le i ymgorffori hanes a threftadaeth y rhanbarth yng nghwricwlwm CA2 a CA3 ac yn gweithio gyda’r elusennau digartrefedd Wallich a Shelter a phobl ifanc difreintiedig.

Ffotograffydd yn y Gwaith Copr, Abertawe

Y tu hwnt i Abertawe a’r gwaith copr, mae’r prosiect hefyd yn datblygu partneriaethau ar draws de Cymru er mwyn datblygu dulliau cydweithredol pellach o weithio gydag adfywio a arweinir gan dreftadaeth sy’n canolbwyntio ar safleoedd treftadaeth rhanbarthol. Trwy hynny, rydym yn gobeithio meithrin y genhedlaeth nesaf o arbenigedd treftadaeth, drwy hyfforddiant mewn sgiliau cadwraeth ac adeiladu, datblygu cwricwlwm ysgolion, cyrsiau Addysg Bellach, a chyrsiau Datblygu Proffesiynol Parhaus (DPP). Gyda chysylltiad â’n MA mewn Hanes a Threftadaeth Cyhoeddus, yn ogystal â hanes cadarn o ysgoloriaethau ymchwil, sefydlwyd CHART trwy’r prosiect hwn er mwyn cynnal a chefnogi gwaith cymuned amrywiol a rhyngddisgyblaethol o ysgolheigion a myfyrwyr ar draws y Brifysgol gyfan, yn ogystal â sefydliadau partner.

Arweinydd y prosiect: David Turner Aelodau’r prosiect: Alex Langlands, Hilary Orange, Tracy Evans, Sarah May a Mai Musie.

Cyfnod y prosiect: 2021-2023

Cyswllt: David d.m.turner@swansea.ac.uk

Dilynwch David ar Twitter @DrDavidMT