Chwilio
Cau'r blwch chwilio yma.
PROSIECTAU

PEDALS (Rhaglen ar gyfer Dyrchafu Sgiliau Digidol ac Iaith)

Wedi’i anelu at fusnesau newydd, mentrau cymdeithasol, dysgwyr sydd ar y cyrion, a’r sector gwirfoddol, mae prosiect PEDALS yn cyrraedd y rhai sy’n aml heb yr adnoddau ariannol i uwchsgilio.
Grŵp o bobl ifanc yn croesi'r ffordd yng nghanol Abertawe ar ddiwrnod heulog

Gan fynd i’r afael â blaenoriaethau yng Nghynllun Corfforaethol 2021-22 Cyngor Abertawe, gan gynnwys uwchsgilio digidol, creu lleoedd a chydlyniant cymdeithasol, mae ein Rhaglen ar gyfer Dyrchafu Sgiliau Digidol ac Iaith (PEDALS) yn darparu manteision amlwg yn rhan o’r genhadaeth ddinesig yn Abertawe, gan gynnwys datblygu dinasyddiaeth weithredol, galluogi mentrau cymdeithasol, a gwella llesiant ac ymlyniad at le trwy weithgareddau dysgwyr.

Mae gan y prosiect bedwar pecyn er mwyn diwallu anghenion gwahanol gymunedau:

  1. Gwnaeth Gwella Sgiliau Digidol yn y Gweithle amlinellu hyfforddiant sgiliau cyfathrebu digidol penodol y mae eu hangen ar draws rychwant o fusnesau newydd, mentrau cymdeithasol a grwpiau nid-er-elw yn ardal Abertawe. Gan weithio gyda phartner cyfathrebu digidol allanol, cynlluniwyd modiwlau hyfforddiant DPP byr sy’n seiliedig ar waith ac maent yn cael eu darparu, wedi’u haddasu at anghenion sefydliadau unigol.
  2. Mae Sgiliau Digidol trwy Wneud Ffilmiau yn darparu hyfforddiant mewn cyfathrebu a ffilm er mwyn gwella llythrennedd a sgiliau digidol ymhlith rhai 13-18 oed sy’n profi unigedd neu broblemau iechyd meddwl neu sy’n agored i niwed. Wedi’u cysylltu â themâu treftadaeth, mae’r hyfforddiant mewn technoleg ddigidol yn anelu at helpu i ddatblygu hyder ac ymlyniad dinesig pobl ifanc.
  3. Mae Sgiliau Iaith ac Addysgu yn mynd i’r afael â rhwystrau iaith rhag cyflogaeth drwy ddarparu dosbarthiadau iaith Saesneg sydd wedi’u hachredu yn rhad ac am ddim i ddysgwyr ar lefelau dechreuwyr-canolradd, gan eu helpu i gymathu yn y gymuned a symud yn effeithiol i mewn i addysg bellach, hyfforddiant, neu waith.
  4. Mae Cefnogi Sgiliau Cyflogaeth Ffoaduriaid yn mynd i’r afael ag allgau ieithyddol a digidol, gan ddarparu hyfforddiant i helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i gael gwaith, a datblygu partneriaethau gyda Chyngor Ffoaduriaid Cymru.

Arweinydd y prosiect: David Turner Aelodau’r prosiect: Tracy Breathnach, Sian Rees, Jill Boggs, Hilary Orange a Sadie-Jade Fouracre-Reynolds

Cyfnod y prosiect: 2021-2022

Cysylltwch â David: d.m.turner@swansea.ac.uk

Dilynwch David ar Twitter @DrDavidMT