Chwilio
Cau'r blwch chwilio yma.

PROSIECTAU

Rydym yn rhan o amrywiaeth o brosiectau byrion a rhai dros sawl blwyddyn ledled y byd ac mae detholiad o’r prosiectau cyfredol a rhai o’r gorffennol ar gael yma. Ffrwyth ein buddsoddiad mewn cydweithio a phartneriaethau ydy’r prosiectau hyn yn ogystal â’n llwyddiant yn denu grantiau ar gyfer ymchwil, treftadaeth gyhoeddus ac adfywio. Fel canolfan amlddisgyblaethol a hwylusydd ymchwil, rydym yn cefnogi amrywiaeth mewn ymchwil ac ymarfer ym maes treftadaeth gan staff, cymrodorion ymchwil, a myfyrwyr y brifysgol, ar draws cyfnodau amser a lleoliadau daearyddol. Porwch trwy ddetholiad o brosiectau’r gorffennol a rhai cyfredol i gael gwybod mwy am ein gwaith yng Nghymru a ledled y byd.