Chwilio
Cau'r blwch chwilio yma.
PROSIECTAU

Dysgu o’r Gorffennol er mwyn Diogelu’r Gorffennol: Diogelu Treftadaeth Ddiwylliannol mewn Gwrthdaro

Gan dynnu ar ymchwil hanesyddol, mae achosion o ddinistrio a diogelu treftadaeth ddiwylliannol yn ystod gwrthdaro yn y gorffennol yn gallu rhoi gwersi pwysig o safbwynt diogelu treftadaeth mewn ardaloedd lle mae rhyfeloedd heddiw.
Llun o adfeilion hanesyddol gyda cholofnau.

Mae diogelu treftadaeth yn fwy na mater o gadw hanes er ei fwyn ei hun. Mae treftadaeth yn ffurfio rhan allweddol o hunaniaeth cenhedloedd, pobloedd, cymunedau ac unigolion. Mae dinistrio treftadaeth ddiwylliannol wedi bod yn elfen mewn hil-laddiad a phuro ethnig, ac wedi sbarduno a gwaethygu trais sectyddol.

Nid dewis amgen yn lle gweithgaredd dyngarol ydy diogelu treftadaeth ddiwylliannol, ond rhan o weithgaredd dyngarol.  


Ffoto Archifau Cenedlaethol yr Unol Daleithiau (NARA) yn dangos Pompeii yn cael ei bomio

Rwy’n ymchwilio i ddinistrio a diogelu treftadaeth ddiwylliannol yn y gorffennol, yn arbennig yn yr Ail Ryfel Byd, gan gynnwys dinistrio bwriadol, difrod digwyddol yn sgil bomio a thanio gynnau mawr, ysbeilio a chamddefnyddio adeiladau hanesyddol at ddibenion milwrol.

Rwyf wedi cyhoeddi ar y themâu hynny ac am waith sefydliad Henebion, Celfyddydau Cain ac Archifau’r Cynghreiriau (y ‘Monuments Men’ go iawn) yn Yr Eidal yn ystod y rhyfel yn fy monograff diweddar Bombing Pompeii (Gwasg Prifysgol Michigan, 2020) ac mewn erthyglau mewn cyhoeddiadau wedi’u golygu megis yr International Journal of Heritage Studies.

Mae fy ymchwil wedi’i gyllido gan yr Academi Brydeinig ac Ymddiriedolaeth Leverhulme. Yn fy nghyhoeddiadau, rwy’n ceisio dwyn gwersi amlwg ar gyfer diogelu eiddo diwylliannol cyfoes ar sail profiad hanesyddol. Rwy’n rhannu’r gwersi hynny drwy fy ymwneud â sefydliad Tarian Las rhyngwladol, sefydliad a ddisgrifir weithiau (a hynny’n rhannol gywir) fel y ‘Groes Goch ar gyfer henebion’ a thrwy fy ymwneud â lluoedd arfog y DU a rhai rhyngwladol, yn arbennig Uned Diogelu Eiddo Diwylliannol y DU, yr wyf wedi darparu cyngor a gweithgareddau hyfforddi iddynt yn seiliedig ar fy ymchwil.  


Treftadaeth archaeolegol Syria a effeithiwyd gan y rhyfel

Fel cyn archaeolegydd ar y Canoldir a’r Dwyrain Agos Rhufeinig sydd â phrofiad o waith maes yn Syria, Yr Aifft a Thiwnisia yn ogystal â’r Eidal a’r DU, mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn diogelu treftadaeth ddiwylliannol yn yr ardaloedd hynny, ac rwyf wedi mentora ymchwil gan gydweithwyr Syriaidd a ddadleolwyd i Raglen Syria Sefydliad Anllywodraethol Cara..

Arweinydd y prosiect: Nigel Pollard

Cyfnod y prosiect: 2018 – yn gyfredol

Cysylltu â Nigel: n.d.pollard@swansea.ac.uk