Mae prosiect Anabledd a Chymdeithas Ddiwydiannol a arweinir gan Brifysgol Abertawe yn canolbwyntio ar brofiadau o anabledd yng nghymunedau glofaol Prydain rhwng 1780 a 1948 ac mae wedi’i gyllido gan Ddyfarniad Rhaglen Ymddiriedolaeth Wellcome mewn Hanes Feddygol.
Mae colledion bywyd yn y diwydiant glo yn wybyddus iawn, ond nid felly graddau anabledd – o ganlyniad i ffactorau yn amrywio o gwympiadau toeon i salwch cronig. Roedd y nifer o ddynion, menywod a phlant a adawyd â namau parhaol o ganlyniad i weithio yn y diwydiant glo neu ei wasanaethu, yn llawer mwy na’r nifer a laddwyd.

Mae ein gwaith wedi herio stereoteipiau confensiynol bod pobl anabl yn ‘ddibynnol’ ac wedi canfod eu rolau niferus mewn cymunedau glofaol, gan ymchwilio i’r ffyrdd y gwnaethant ymateb i anafiadau neu newid yn eu gallu corfforol. Mewn gwirionedd, nid oedd anabledd o anghenraid yn golygu diwedd ar fywyd gwaith pobl ac roedd rhai glowyr anabl wedi dychwelyd i weithio o dan ddaear hyd yn oed.
Roedd gweithwyr sâl ac anabl yn wynebu caledi o sawl math yn y cyfnod cyn y wladwriaeth les fodern. Serch hynny, nid oeddent yn ddiymadferth yn wyneb anabledd. Fel unigolion, a thrwy undebau llafur, bu glowyr anabl yn brwydro dros well gofal meddygol a chefnogaeth ariannol, yn galw cyflogwyr i gyfrif, ac yn herio esgeulustod meddygol.
Mae’r ymchwil wedi gwella dealltwriaeth y cyhoedd drwy arddangosfa, O Ben y Pwll i’r Ysbyty a Thu Hwnt: Hanes Claddedig Anabledd yn y Diwydiant Glo cyn y GIG,, mewn cydweithrediad ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Mae wedi cyflwyno llinyn dehongli newydd hefyd yng nghyflwyniad yr Amgueddfa ar hanes cloddio am lo drwy banel newydd am hanes anabledd yn Oriel y Glo.

Mae’r ymchwil wedi codi ymwybyddiaeth ynglŷn â hanes anabledd yng Nghymru ac wedi grymuso pobl a sefydliadau anabl i gynnal eu prosiectau ymchwil eu hunain, gan fanteisio ar arbenigedd tîm ymchwil Abertawe.
Arweinydd y prosiect: David Turner (Prifysgol Abertawe). Aelodau’r prosiect: Kirsti Bohata, Anne Borsay (2011-14), Mike Mantin, Daniel Blackie, Alexandra Jones (Prifysgol Abertawe); Vicky Long, Victoria Brown (Prifysgol Glasgow Caledonia); Arthur McIvor, Angela Turner (Prifysgol Strathclyde); Steven Thompson, Ben Curtis (Prifysgol Abersystwyth).
Cyfnod y prosiect: 2011-2016
Cysylltwch â David Turner: d.m.turner@swansea.ac.uk
Dilynwch David ar Twitter: @DrDavidMT