Chwilio
Cau'r blwch chwilio yma.
PROSIECTAU

Cemeg, Celf a Threftadaeth

Bu CHART ac adran Cemeg Prifysgol Abertawe yn ymchwilio i’r rôl y gall celf ac ymgysylltu creadigol ei chwarae wrth gyfathrebu prosesau cemegol cymhleth tra’n ymchwilio i arwyddocâd treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog Cwm Tawe Isaf.
Grŵp o greiriau cerameg

Mewn partneriaeth â’r seramegydd a’r artist cyfoes, Esther Ley, ac wedi derbyn cyllid hael gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, daeth y prosiect ag aelodau o’r gymuned ynghyd o bob rhan o’r rhanbarth i ail-greu tawddlestri bychain – a elwir yn giwpelau – a oedd wedi’u canfod ganArchaeoleg y Mynydd Du mewn cloddfeydd diweddar ar safle hen Waith Copr y Morfa, Abertawe.

Pan fyddwn yn meddwl am Dde Cymru, mae tuedd i feddwl am ddiwydiannau trwm ac i anwybyddu’r ffaith bod llefydd fel Abertawe wedi bod yn feithrinfeydd i arloesedd gwyddonol. Roedd canfod y llestri hyn, a ddefnyddid yn y broses brofi, yn amserol o ran atgoffa rhywun pa mor soffistigedig oedd y prosesau cemegol a oedd yn cael eu datblygu yn Ne Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Cafodd grwpiau o elusen digartrefedd Crisis, o grŵp iechyd meddwl pobl ifanc Platfform, ac o gymuned greadigol ragorol9to90 ardderchog GS Artists eu gwahodd i ymuno â ni ac i fowldio eu tawddlestri eu hunain a’u gwydro ar y cyd gyda phob math o liwiau er mwyn dynwared y gwydredd a adawyd ar y tawddlestri gwreiddiol wrth iddynt fynd trwy’r broses o brofi’r metel. Mewn gweithdai a gynhaliwyd gyda phellter cymdeithasol, rhoddodd aelodau o staff Prifysgol Abertawe arddangosiadau ynglŷn â’r prosesau cemegol oedd ar waith a chyflwyno rhywfaint o’r wybodaeth archaeolegol a hanesyddol mewn perthynas â diwydiannau metel De Cymru.

Y canlyniad oedd set o dros 100 o dawddlestri wedi’u saernïo’n hyfryd a ddefnyddiwyd gennym wedyn i ysbrydoli arddangosfa dros dro yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Ers hynny, mae’r prosiect wedi codi stêm; aeth yr arddangosfa yn ei blaen iOriel Science ac mae cynnwys y prosiect nawr yn sail i adnoddau addysgol ar gyfer sesiynau hyfforddi athrawon Cyfnodau Allweddol 3 a 4 a ddarperir gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol.

Yr hyn a amlygwyd yn anad dim gan y prosiect hwn ydy grym dulliau amlddisgyblaethol o greu llefydd a sut y gellir, trwy fabwysiadu amrywiaeth o ddulliau, gynnwys cynulleidfa ehangach a mwy amrywiol mewn straeon hanesyddol cymhleth a dealltwriaeth fanwl o wyddor gemegol.

Arweinydd y prosiect: Alex Langlands. Aelodau’r prosiect: Esther Ley

Cyfnod y prosiect: 2021-2022

Cysylltwch ag Alex:a.j.langlands@swansea.ac.uk

Dilynwch Alex ar Twitter: @AlexJLanglands