Search
Close this search box.
Events

New perspectives on the archaeology and history of Old Sarum

For over ten years Dr Alex Langlands has been researching the historical and evidential significance of Old Sarum, one of the most enigmatic and largest historic monuments in southern Britain.
Old Sarum cathedral overshadowed by the inner motte to the south east

Rydym yn gobeithio y gallwch ymuno â ni am y sgwrs hon a ddarperir ar y cyd â Chymdeithas yr Hynafiaethwyr. Ers mwy na deng mlynedd, mae Dr Alex Langlands wedi bod yn ymchwilio i arwyddocâd yr Hen Gaersallog o ran hanes a thystiolaeth. Dyma un o’r henebion hanesyddol mwyaf enigmatig a mawr yn ne Prydain.

March 14 @ 5:00 pm – 6:00 pm14 Mawrth o 17:00 tan 18:00

To register, visit here and scroll down to the ticketing App provided by pretix.

Er mwyn cofrestru, ewch yma a sgroliwch i lawr i’r ap tocynnau a ddarperir gan pretix.

Old Sarum remains one of the most significant monuments in southern England, essential to our understanding of political, administrative and cultural developments in the Anglo-Norman period. But how much can we really deduce from the archaeological evidence? This talk will bring together all archaeological work undertaken to date, published and unpublished, in a synthesis that will address some of the key questions that still hover over our understanding of the site and the chronology of its development. What emerges is a landscape of profound historical and evidential significance in terms of what it can tell us about the Norman colonial project and developments in urbanism from the tenth to twelfth centuries. This research work was generously funded by the Margaret and Tom Jones Research Fund.

Mae’r Hen Gaersallog yn dal i fod yn un o’r henebion mwyaf arwyddocaol yn ne Lloegr, sy’n hanfodol i’n dealltwriaeth o ddatblygiadau gwleidyddol, gweinyddol a diwylliannol y cyfnod Eingl-Normanaidd. Ond faint gallwn wir ei ddehongli o’r dystiolaeth archeolegol? Bydd y sgwrs hon yn dod â’r holl waith archeolegol yr ymgymerwyd ag ef hyd yn hyn – wedi’i gyhoeddi a heb ei gyhoeddi – ynghyd, mewn synthesis a fydd yn mynd i’r afael â rhai o’r cwestiynau allweddol sy’n parhau ynghylch ein dealltwriaeth o’r safle a’r gronoleg o’i ddatblygiad. Yr hyn sy’n dod i’r amlwg yw tirwedd o arwyddocâd mawr o ran hanes a thystiolaeth a’r hyn y gall ei ddweud wrthym am y prosiect trefedigaethol Normanaidd a datblygiadau bywyd trefol o’r ddegfed ganrif tan y ddeuddegfed ganrif. Ariannwyd y gwaith ymchwil hwn yn hael gan Gronfa Ymchwil Margaret a Tom Jones.

Alex is delighted to be sharing some of the key findings from over a decade of research on Old Sarum and its surrounding landscape in the medieval period. The lecture explores many of the commonly held beliefs about the site, its origins in the eleventh century, and the character of the settlements in its hinterland. Previously unpublished archival material and existing archaeological evidence will be drawn together in synthesis to provide an updated perspective on this most important of historic sites in southern Britain.

Mae Alex yn falch o rannu rhai o ddarganfyddiadau allweddol mwy na degawd o ymchwil i’r Hen Gaersallog a’i thirwedd gyfagos yn ystod y cyfnod canoloesol. Bydd y ddarlith yn archwilio llawer o’r credoau cyffredin am y safle, ei darddiadau yn yr unfed ganrif ar ddeg, a chymeriad yr aneddiadau yn ei gefnwlad. Caiff deunydd archifol nas cyhoeddwyd o’r blaen a thystiolaeth archeolegol a oedd eisoes yn bodoli eu cyfuno i gynnig safbwynt wedi’i ddiweddaru am y safle hwn sydd ymysg y pwysicaf yn ne Prydain.

Dr Alex Langlands is Associate Professor of History and Heritage in the department of History, Heritage and Classics at Swansea University. He has worked in commercial archaeology, broadcast media, and has an academic specialism in medieval landscape studies.

Mae Dr Alex Langlands yn Athro Cysylltiol Hanes a Threftadaeth yn yr Adran Hanes, Treftadaeth a’r Clasuron ym Mhrifysgol Abertawe. Mae wedi gweithio ym maes archeoleg fasnachol a’r cyfryngau darlledu ac o safbwynt academaidd mae’n arbenigo mewn astudiaethau tirweddau canoloesol.

Image courtesy of Hedley Thorne and Sue Martin (inset).

Diolch i Hedley Thorne a Sue Martin (yn y llun) am y llun.

Location of lecture: James Callaghan Building, Swansea University, Singleton Campus, Swansea, SA2 8PP. Please see here for a map of the campus.

Lleoliad y ddarlith: Adeilad James Callaghan, Prifysgol Abertawe, Campws Parc Singleton, Abertawe SA2 8PP. Ceir map o’r campws yma.

Schedule:
16:00: Arrival, tea, coffee and refreshments served in the Basement rooms, James Callaghan Building, Swansea University, Singleton Campus, Swansea, SA2 8PP.
17:00: Lecture and Meeting in the James Callaghan Lecture theatre.

Amserlen:
16:00: Cyrraedd, te, coffi a lluniaeth yn yr ystafelloedd islawr, Adeilad James Callaghan, Prifysgol Abertawe, Campws Parc Singleton, Abertawe SA2 8PP.
17:00: Darlith a chyfarfod yn Narlithfa James Callaghan.

his event will be both in person at the James Callaghan Building and online. Please select the appropriate ticket below.

Cyflwynir y digwyddiad hwn ar y safle yn Adeilad James Callaghan ac ar-lein. Dewiswch y tocyn priodol isod.

Attendance at Swansea University:

  • Open to anyone to join, Fellows, Affiliates and General Public.
  • Places in person will be allocated on a first-come, first-served basis.
  • The event will begin at 17.00 GMT. Please arrive in plenty of time.
  • Tea/Coffee is served from 16.00 GMT.
  • Registration is essential for non-Fellows but we encourage Fellows to register as well. To register, visit here and scroll down to the ticketing App provided by pretix.

The schedule for the evening if attending in person:

  • Refreshments are served from 16.00 GMT in the Basement rooms, James Callaghan Building.
  • The meeting begins at 17.00 GMT with the lecture starting at approximately 17.05 GMT.
  • Lectures run for approximately 45min and are followed by a short Q&A.

Attendance by Live Stream:

  • Open to anyone to join, Fellows, Affiliates and General Public.
  • The event will be live-streamed to YouTube here.
  • The event will begin at 17.00 GMT.
  • You will receive an email reminder with the link to join the day before the lecture.

Presenoldeb ym Mhrifysgol Abertawe:

  • Gall unrhyw un ymuno: cymrodyr, aelodau cyswllt a’r cyhoedd.
  • Caiff lleoedd ar y safle eu neilltuo ar sail y cyntaf i’r felin.
  • Bydd y digwyddiad yn dechrau am 17:00 GMT. A wnewch chi gyrraedd mewn da bryd.
  • Gweinir te/coffi o 16:00 GMT.
  • Mae cofrestru’n hanfodol ar gyfer y rhai hynny nad ydynt yn gymrodyr ond rydym yn annog cymrodyr i gofrestru hefyd. Er mwyn cofrestru, ewch yma a sgroliwch i lawr i’r ap tocynnau a ddarperir gan pretix.

Amserlen y noswaith i’r rhai hynny a fydd yn dod i’r safle:

  • Gweinir lluniaeth o 16:00 GMT yn yr ystafelloedd islawr yn Adeilad James Callaghan.
  • Bydd y cyfarfod yn dechrau am 17:00 GMT cyn i’r ddarlith ddechrau am oddeutu 17:05 GMT.
  • Bydd y ddarlith yn para am oddeutu 45 munud a bydd sesiwn holi ac ateb fer yn ei dilyn.

Presenoldeb drwy Ffrwd Fyw:

  • Gall unrhyw un ymuno: cymrodyr, aelodau cyswllt a’r cyhoedd.
  • Caiff y digwyddiad ei ffrydio’n fyw i YouTube yma.
  • Bydd y digwyddiad yn dechrau am 17:00 GMT.
  • Byddwch yn cael e-bost atgoffa gyda’r ddolen ymuno ar y diwrnod cyn y ddarlith.