PROSIECTAU

Lleisiau Prifysgol Abertawe

Canmlwyddiant Prifysgol Abertawe yn 2020 oedd penllanw prosiect hanes llafar a fu’n cofnodi atgofion a phrofiadau rhychwant o bobl a fu’n gysylltiedig â hanes y Brifysgol.
Singleton, Taith Campws Prifysgol Abertawe.

Nodwyd canmlwyddiant Prifysgol Abertawe yn 2020. Bedair blynedd ynghynt, dechreuodd Dr Sam Blaxland weithio fel ymchwilydd ôl-ddoethurol canmlwyddiant y Brifysgol ar brosiect hanes llafar ‘Lleisiau Prifysgol Abertawe’. Casglwyd tystiolaeth gan bron i 100 o bobl sy’n gysylltiedig â’r Brifysgol, o gyn-aelodau staff academaidd, myfyrwyr, neu weinyddwyr, technegwyr, tirmyn i aelodau o’r cyhoedd o’r rhanbarth cyffiniol. Roeddent yn amrywio o bobl yn eu hugeiniau i rai dros gant ac yn cwmpasu pob maes o hanes y brifysgol. Cytunodd cyn-is-gangellorion i siarad, ac felly hefyd grŵp o fyfyrwyr a ffurfiai un o dimau sabothol diweddaraf ein Hundeb Myfyrwyr.

Yn 2020, cyhoeddwyd llyf Sam, Swansea University: Campus and Community in a Post-war World, 1945-2020 sy’n cynnwys llawer o’r dystiolaeth a gasglwyd.

Swansea University: Campus and Community in a Post-war World, 1945-2020

Caiff y casgliad hanes llafar ei guradu gan Archifau Richard Burton y Brifysgol ac mae’r prosiect yn parhau’n agored. Gellir ychwanegu tystiolaeth bellach yn y dyfodol. 
 

Arweinydd y prosiect: Sam Blaxland

Cyfnod y prosiect: 2016-yn parhau

Cysylltwch â Sam: s.blaxland@swansea.ac.uk

Dilynwch Sam ar Twitter @SamBlaxland