Dan arweiniad yr Athro Cornelius Holtorf ym Mhrifysgol Linnaeus yn Sweden Mae Cadair UNESCO mewn Dyfodol Treftadaeth yn dwyn ymchwilwyr o bedwar ban byd ynghyd i ystyried sut mae ymarfer treftadaeth yn creu dyfodol, ac i wella llythrennedd am y dyfodol yn y gymuned dreftadaeth fyd-eang. Mae Dr Sarah May, Prifysgol Abertawe, yn ymchwilydd cyswllt.
Mae ymchwil y Gadair yn eang – o wastraff niwclear, i ddychwelyd pobl i’w mamwlad a sbwrieoleg – ond mae’r cyfan yn cyfrannu at y cwestiynau canlynol:
- At ba ddyfodol neu ddyfodolau rydym yn diogelu treftadaeth?
- Pa dreftadaeth fydd yn helpu cenedlaethau'r dyfodol i ddatrys heriau pwysig?
- Sut gallwn ni ddatblygu meddwl am y dyfodol (a llythrennedd y dyfodol) ymhlith gweithwyr treftadaeth proffesiynol yn fyd-eang?
Mae’r Gadair yn gysylltiedig â Chanolfan Treftadaeth y Byd UNESCO ac â Rhwydwaith Llythrennedd Dyfodol Byd-eang UNESCO. Ceir cydweithio hefyd â’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd/Asiantaeth Ynni Niwclear (OECD/NEA) yng nghyd-destun rheoli gwybodaeth hirdymor ynglŷn â gwaredu gwastraff niwclear.
Mae gwaith Sarah i’r Gadair wedi bod yn ystyried sut caiff plant eu defnyddio fel rhan o’r drafodaeth am ddyfodol treftadaethau a pha brofiad a gânt o ymarfer treftadaeth. Mae ei gwaith ar dreftadaeth wenwynig yn cyfrannu at y gadair hefyd. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn ystyried sut y gall syniadau, naratifau ac ymarfer o un parth, megis rheoli gwastraff niwclear, gyfrannu at un arall, megis polisi treftadaeth ddiwylliannol.
Mae’r llyfr "Cultural Heritage and the Future", 2021, yn ganlyniad i waith y grŵp ymchwil.
Arweinydd y prosiect: Cornelius Holtorf. Aelodau’r prosiect: Anders Högberg, Annalisa Bolin, Emily Hanscam, Sarah May, Leila Papoli-Y, Claudio Pescatore a Helena Rydén
Cyfnod y prosiect: 2017-2025
Cysylltwch â Sarah May:s.j.m.may@swansea.ac.uk
Dilynwch y Project ar Twitter: @UnescoChairLNU