
Prosiect Cynaliadwyedd Ysgol Bae Baglan
Yn 2022, dilynodd Rebecca Bangera raglen interniaeth SPIN tra roedd yn astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Astudiaethau Plentyndod ym Mhrifysgol Abertawe. Drwy Rwydwaith Interniaethau â Thâl y brifysgol (SPIN), caiff myfyrwyr eu cysylltu â chyflogwyr ar draws pob sector ar gyfer interniaethau pedair-wythnos ar lefel graddedigion.